Costau a Thaliadau
Ffi Cynrychiolydd yr Uwchgynhadledd
Y ffi safonol ar gyfer yr Uwchgynhadledd yw £170 yn cynnwys TAW. Mae hyn yn cynnwys diwrnod a hanner ar 22 a 23 Hydref 2009.
I’r rheiny nad ydynt yn gallu mynychu’r Uwchgynhadledd ar y diwrnod cyntaf, gallwn gynnig ffi is, sef £95 gan gynnwys TAW, i fynychu ar 23 Hydref yn unig.
Ceir mynychu diwrnod cyntaf yr Uwchgynhadledd yn ogystal â’r cinio am £75 gan gynnwys TAW.
Ffi Arddangoswyr
I’r sefydliadau hynny sy’n dymuno cael lle arddangos arbennig, rydym yn falch o gynnig y canlynol:
- Gofod llawr ar gyfer system arddangos o fath naid neu faner
- Llefydd i ddau gynrychiolydd o’ch sefydliad staffio’r stondin
- Mynediad i’r man arddangos a phrif sesiynau cyflawn yr Uwchgynhadledd
- Lluniaeth drwy gydol y dydd a chinio ganol dydd a weinir yn y man arddangos
- Mynediad arbennig at sefydliadau DU-eang sy’n ymwneud ag adfywio ac adnewyddiad
Ffi Arddangosydd (nid yw’n cynnwys unrhyw anghenion ychwanegol ar gyfer cyfleusterau megis cysylltiad rhyngrwyd)
Mae’r ffi o ar gyfer y rhai sy’n arddangos yn cynnwys pecyn gwagle cyffredinol yn unig gyda: 1 cyflenwad pwer, 1 x bwrdd sy’n plygu maint 4’ x 2’ a 2 gadair.
Gall y rhai sy’n arddangos ddewis pecyn cragen am £13.50 (+TAW) am bob metr sgwâr ychwanegol. Mae’r pecyn cragen cyflawn yn cynnwys 1 cyflenwad pwer, 1 x trac o 3 sbotolau, 1 bwrdd sy’n plygu maint 4’ x 2’ a 2 gadair. Mae’r paneli wedi’u gwneud o ddefnydd llwyd a gellir defnyddio Velcro arno. Bydd angen i chi archebu cynllun cragen fis o flaen llaw, sef erbyn 24 Medi.
Mae mynediad di-wifr ar gael drwy’r adeilad - gall y rhai sy’n bresennol a’r rhai sy’n arddangos brynu pâs (£5 am hyd y digwyddiad).
Cyfarpar ychwanegol - Gallwch logi teledu, peiriant DVD etc o’r lleoliad am gost ychwanegol.
Dulliau Talu
Ym mhob achos, bydd anfoneb TAW yn cael ei anfon i’r cyfeiriad a roddwyd gennych.
Gellir talu trwy siec, trosglwyddiad banc, cerdyn debyd neu gredyd cyn yr Uwchgynhadledd. Nodwch os gwelwch yn dda fod ffi gwasanaeth ychwanegol o 3.5% yn cael ei ychwanegu at gyfanswm eich anfoneb os ydych yn bwriadu talu trwy gerdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn. Ni chodir y tâl hwn pan wneir taliadau drwy’r wefan.
Cliciwch yma er mwyn llawr lwytho copi o’r ffurflen taliad trwy gerdyn credyd/ debyd i’w ffacsio’n ol.
Polisi ddiddymu
Os mi fydd rhaid i chi ddiddymu eich lle, mi fydd rhaid i chi hysbysu Glasgows, y trefnwyr, ar bapur (mi fydd ebost yn dderbyniol). Cynnigir ad-daliad llawn os canslwyd eich lle cyn y 5ydd o Hydref 2009. Ar ol hyn, ni cynnigir ad-daliad a mi fydd rhaid i chi dalu y swm llawn. Derbynnir cynrychiolwyr a enwir ar amodau. Mi fydd rhaid i chi gyflwyno manylion cyswllt llawn o’r cynrychiolwyr a enwir i Glasgows ar yr amser o ddiddymu eich lle.
Ni fydd arddangoswyr yn gymwys am ad-daliadau ar unrhyw amser. Cewch ddanfon eilyddion o gynrychiolwyr gofrestredig ond mi fydd rhaid cyflwyno eu manylion cyswllt i Glasgows cyn yr uwchgynhadledd.








